Cymraeg

EnglishKS3 KS4  -  KS5

Adran y Gymraeg 

Rydyn ni’n gyfrifol am ddysgu’r iaith Gymraeg trwy’r ysgol.  Rydyn ni’n anelu at gyflawni hyn gan hybu agweddau cadarnhaol tuag at Gymru, Cymraeg a Chymreictod. 

Staff yr Adran 

Mr Derek Payne  Pennaeth

Mrs Gail Thomas C A A A

Mrs Leanne Woodward Cysylltiadau Cynradd

Mr Huw Lloyd 

Cyfnod Allweddol 3 

Cwrs thematig yw CA3 yn cynnwys amrywiaeth o themâu o fewn profiadau’r disgyblion megis Hunan, Teulu, Hamdden, Ysgol, T/Cartref, Gwyliau ac ati.  Er mai’r cwrs yn thematig mae’n amhosibl i osgoi’r elfen ramadegol yn gyfan gwbl.  Hyfforddir disgyblion ym mhob sgil ieithyddol sef llafaredd, darllen ac ysgrifennu.  Mae gwersi Cymraeg yn darparu cyfleon i bawb gyffwrdd â’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y byd ehangach a byddant yn defnyddio sgiliau cyfathrebu a rhifedd, cydweithio ag eraill a datrys problemau.  Darperir cyfle i ehangu gafael ar sgiliau TGCH trwy’r Cyfnod Allweddol. 

Asesu 

Asesir pob disgybl ym mhob sgil iaith bob blwyddyn gydag asesiad ffurfiol bob hanner tymor ( er nid ym mhob sgil bob tro ). 

Gwaith Cartref 

Deallir fod rhan pwysig dysgu’r Gymraeg yw adolygu a darllen dros unrhyw waith a wnaed yn y dosbarth.  Felly gofynnir i ddisgyblion i dreulio ychydig o amser bob tro maent wedi cael gwers i fwrw golwg dros yr hyn y gwnaethant yn y wers.  Yn ogystal â hyn bydd adegau lle gosodir tasgau penodol i wneud fel gwaith cartref yn ychwanegol i’r darllen drosodd. 

Cefnogaeth Rhieni 

Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod nifer fawr o rieni yn peri gofid am helpu plant gyda’u gwaith cartref Cymraeg.  Yr unig beth ofynnwn ni ichi wneud yw hybu’ch plentyn i wneud yr amser i edrych dros eu gwaith yn rheolaidd.  Hefyd gofynnwn i chi i beidio bod yn negyddol tuag at bwnc ysgol sydd yn gallu bod o fudd mawr i ddisgyblion yn y dyfodol.

  • Share/Bookmark
Copyright ©pennardesign Suffusion WordPress theme by Sayontan Sinha